Helo bawb,
Dros y penwythnos fe eis i'r Eisteddfod Genedlaethol, i wylio y defodau ddechreuol. Mae'n brofiad anhygoel i wylio ddefod wedi iw gynnal yn hollol drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn rhyw ffordd rhyfedd fe deimlwn braidd yn drist fod defodau Cymraeg yn frin yn y byd Baganaidd.
Er fy mod i'n perthyn ac yn rhedeg Urdd a Llwyn yng Nghymru, nid oes (yn drist, neu'n siomedig) llawer o'r aelodau yn siared yr hen iaith. Ond, nos Sadwrn ddiwethaf fe ddathlwn Gwyl Awst yma yn Lwyn Mon, ac am y tro cyntaf erioed yr oedd dros hanner yn bresennol yn Gymraeg, er fod y rhan fwyaf yn newydd ir Llwyn, yr oedd yn brofiad arbennig i ddefodi fwy neu lai drwy grfrwng y Gymraeg.
A oes rhai ohonoch wedi cael cyfle i ddathlu eich hysbrydoliaeth neu eich defodau yn hollol drwy gyfrwng y gymraeg?
Tybed efallai a fuasa hi'n bosib trefnu rhywbeth gyda'r holl sairedwyr Cymraeg yma ac drwy gyfryngau eraill i gynnal ddefod hollol Gymraeg?
Kris /|\




