Defodau Cymraeg

Subforum for Welsh language studies and posts.

Defodau Cymraeg

Postby Kris » 07 Aug 2007, 14:33

Helo bawb,

Dros y penwythnos fe eis i'r Eisteddfod Genedlaethol, i wylio y defodau ddechreuol. Mae'n brofiad anhygoel i wylio ddefod wedi iw gynnal yn hollol drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn rhyw ffordd rhyfedd fe deimlwn braidd yn drist fod defodau Cymraeg yn frin yn y byd Baganaidd.

Er fy mod i'n perthyn ac yn rhedeg Urdd a Llwyn yng Nghymru, nid oes (yn drist, neu'n siomedig) llawer o'r aelodau yn siared yr hen iaith. Ond, nos Sadwrn ddiwethaf fe ddathlwn Gwyl Awst yma yn Lwyn Mon, ac am y tro cyntaf erioed yr oedd dros hanner yn bresennol yn Gymraeg, er fod y rhan fwyaf yn newydd ir Llwyn, yr oedd yn brofiad arbennig i ddefodi fwy neu lai drwy grfrwng y Gymraeg.

A oes rhai ohonoch wedi cael cyfle i ddathlu eich hysbrydoliaeth neu eich defodau yn hollol drwy gyfrwng y gymraeg?

Tybed efallai a fuasa hi'n bosib trefnu rhywbeth gyda'r holl sairedwyr Cymraeg yma ac drwy gyfryngau eraill i gynnal ddefod hollol Gymraeg?

Kris /|\
User avatar
Kris
 
Posts: 47
Joined: 10 Jan 2005, 16:20
Location: Ynys Mon, Anglesey
Gender: Male

Re: Defodau Cymraeg

Postby xxglennxx » 20 Dec 2008, 00:31

Wel, Wiccan ydw i, a dwi'n dathlu bron i bob o'm defodau i yn y Gymraeg. Yn wir, mae fy Llyr o Gysgodion yn Gymraeg, hefyd.

Bydd yn wych i gael dathliad trwy gyfrwng y Gymraeg yn hollol efo'r holl siaradwyr y fan hyn, er dwi'n meddwl y byddaf allam o'm elfen i, oherwydd eich bod chi i gyd yn Dderwyddon, a dwi'n Wiccan :/

Ond, toes yna ddim ots gennyf - dwi wedi bod yn meddwl am ddysgu oddeutu Derwyddiaeth ers talwm rŵan.

Glenn
Glenn

Image

Cefnogwr y Gymdeithas yr Iaith Gymraeg! - Supporter of Cymdeithas yr Iaith Gymraeg!

ImageImage

Image
xxglennxx
 
Posts: 8
Joined: 20 Dec 2008, 00:17
Location: Blaenau Gwent, Cymru.
Gender: Male


Return to Welsh

Who is online

Users browsing this forum: No registered users and 1 guest